Monday 2 July 2012

Dydd Gwener 29.6.12


Dydd Gwener

Cysgon ni’n hwyr heddiw oherwydd doedd y bws i Dazu ddim ‘di cyrraedd tan 10:30! Aethon ni lawr i gael brecwast yn hwyr, tua 8:30. Yn Dazu fe fyddwn ni’n gweld cerfluniau Bwdist a Tao. Ar ol chwarae a gwylio’r teledu am beth teimlodd fel oesoedd, cyrhaeddodd ein bws. Cymrodd y daith hir bron 3 awr ac roedd o’n droellog iawn! Cwympodd Bronwen i gysgu a chymrodd hi lan 3 sedd yn  y cefn!
Pan gyrhaeddon ni Dazu aethon ni yn syth i ginio lle cafodd pawb hwyl yn blasu bwydydd newydd fel nwdls, cracyrs reis fel Ryvitas, reis cyffredin a physgod sur a melus.

Yn y lle ei hun, fe welon ni  y cerfluniau. Roedden nhw’n eithaf cyffredin yn y dechrau, ond wedyn dechreuon nhw mynd yn fwy ac yn fwy. Roedd yna gerflun o‘r Diafol yn dal Olwyn Bywyd. Yn dibynu ar eich “karma”, rydych chi’n gallu dod i nol yn fyw fel pysgodyn, anifail, person drwg neu pherson gwahanol cyn fynd i’r Nefoedd. Gwelon ni gerflyniau Buddha. Aethon ni mewn i ogof a roedd rhywun wedi cerflunio 3 cerflun yn y cefn , 3 ar yr ochr dde a 3 ar yr ochr chwith. Ar ol gweld pob cerflun aethon ni nol ar y bws a gyrron ni i’r bwyty hotpot. Aeth y gyrrwr a ni ar hyd ffordd troellog iawn. Roedd pawb yn ofn iawn!!!!!!!

Cerfluniau Dazu




I swper cafon ni hotpot arall roedd yn flasus iawn. Aethon ni nol i’r gwesty a roedd pawb yn siarad pan ddaeth Mr Thomas i mewn gyda cacen Adam, roedd yn flasus iawn!!!! Canodd pawb penblwydd hapus a bwyton ni e i gyd!!!


                                                             Cacen penblwydd Adam


Aethon ni i gyd i’r gwely’n gynnar oherwydd roedden yn teithio y bore wedyn i Chengdu ar dren bwled a wedyn hedfan i Amsterdam a wedyn hedfan nol i Gymru.

Sunday 1 July 2012

Nol adref!

Rydyn ni wedi cyrraedd nol adref yn ddiogel ar ol ein taith bythgofiadwy! Fe fyddwn ni gyd yn cofio'r profiadau rydyn ni wedi cael yn ystod y pythefnos dwethaf am byth! O'r bwydydd blason ni, y pobl cwrddon ni a'r llefydd aethon ni bydd bob eiliad yn aros yn gyda ni i gyd. Rydyn ni i gyd heddiw yn ceisio dod i arfer a bod nol adref - mae defnyddio cyllell a fforc i fwyta yn rhyfedd iawn arol pythefnos o fwyta gyda chopsticks!! Fe fydd Adam, Bronwen, Gwen a Nate yn bloggio am ein profiadau yn ystod y deuddydd olaf yr wythnos nesaf ond am nawr dyma mwy o luniau o'r trip.
                                       Un o uchafbwyntiau'r trip oedd gweld panda go iawn!
                                 

Friday 29 June 2012

Dydd Iau - 28.06.12

Codon ni yn gynnar bore ma, roedd yn rhaid cael brecwast a bod ar y bws erbyn hanner awr wedi 8 gan ein bod yn mynd i’r ysgol. Gwisgon ni gyd yn smart a bant a ni. Cafon ni wersi caligraffi, celf a Saesneg. Yn y wers gelf peintion ni gyd gwyntyll gyda blodau a pili pala. Cafon ni gyd ffrind arbennig, roedden nhw i gyd yn garedig iawn. Prynodd bob un anrheg i ni.
Ar ol gorffen ein gwersi aethon ni am ginio gydag athrawon yr ysgol. Wel am brofiad byth gofiadwy oedd hwn. Roedd gan bob un ohonom powlen o olew sbeislyd berwedig ag roedd yn rhaid i ni ddefnyddio hwn i goginio ein bwyd ni. Buodd Gwen yn ddewr unwaith eto. Blasodd hi coluddyn bach hwyaden a stwmog buwch – roedd ei gwyneb yn bictwr unwaith yn rhagor!!!
Ar ol cinio cafon ni amser i grwydro o amgylch rhan o’r dref. Buon ni gyd yn bargeinio heddiw diolch i arweiniad Adam Ddydd Sul!!
Treulion ni amser cyn swper yn paratoi a pherfformio golygfa bwyty Mandarin. Ffilmiodd Scott yr olygfa i ni ddangos i bawb ar ol dod adref.
Gan ei fod yn benblwydd ar Miss MacFadyen heddiw a Adam yfory aethon ni allan i Kareoke booth heno, ble buon ni wrth ein boddau yn canu pob math o ganeuon. Mae’n draddodiad yma yn Tseina i gwyr busnes ganu Kareoke gyda’i gilydd cyn gwneud unrhyw fusnes! 
Yfory rydyn ni’n mynd i Dazu i weld cerfluniau carreg. Daeth y cerfluniau yma i’r amgueddfa yng Nghaerdydd y llynedd. Dyma’r tro cyntaf i nhw ddod allan o Tseina ers 3000 o flynyddoedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen i’w gweld a dysgu mwy amdanyn nhw yfory.
Zai tien, nos da cariad Nate, Gwen, Bronwen, Adam, Mr Thomas a Miss Davies xxx

Ein Ffrindiau yn yr ysgol.


Nate yn gwneud Kareoke!


Mr Thomas yn joio!

Dydd Mercher - 27.06.12

Deffron ni i swn y ffon yn canu, Mr Thomas oedd e dweddodd e ni hao yn gyntaf.  Deffrodd y merched yr un ffordd ond gyda Miss Davies ar y ffon yn lle. Felly aeth pawb lawr i frecwast. Cafon ni melon-ddwr a bara, roedd yn flasus iawn.  Aeth pawb nol i’w stafelloedd i’w nol ei bagiau a rhoi eli-haul ymlaen. Aeth pawb ar y bws a eistedd lawr. Gyrron ni lawr i’r hen dref a cerddon ni lawr y strydoedd roedd yn hynod o bert gyda’r llusernu coch sgeliniog yn hongian o’r tai pert. Edrychon ni ar y siopiau, roedd llawer o bethau traddodiadol i’w ddewis o. Gwelodd Fanzhi stondyn oedd yn gwerthu eich enw mewn caligraffi. Ar ol i bawb brynu beth oeddent eisiau fe garion ni ymlaen. Yr oedd siopiau gwahanol i beth sydd yng Nghymru!!!!!!  Roedd y swn mor uchel a roedd yr arogl yn afiach(tofu).
Ar ol siopa fe athon ni lawr i’r ddraig dymuniadau, roeddech yn cerdded o gwmpas y ddraig saith o weithiau wedyn roeddech yn cyffwrdd dannedd y ddraig ac yn gwneud dymuniad. Ar ol i’n grwp ni fynd o gwmpas y ddraig 105 o weithiau fe aethon ni nol ar y bws a gyrron ni i’r bwyty. Roedd y bwyty mor grand roedden ni i gyd yn gallu eistedd ar un bwrdd ac roedd bwnsied mawr o flodau yng nghanol y bwrdd. Fe fwyton ni llawer mwy nag arfer oherwydd bod y lazy Susan mor fawr roedd rhagor o fwyd yn mynd arni!!!!!!!!!!!!!!! Ar ol stwffio ein hunain, aethon ni i’r sw.  Gwelon ni banda’s roedden mor brydferth. Roedd yna tad panda, mam panda a dau plentyn enw un ohonynt oedd You You. Gwelon ni jiraff, elliffantod, mwnciod, hipo,rhino, teigr, llew, babi llew, sebra a chamel. Ar ol aethon ni i siop y panda’s. Fe brynon ni banda oedd yn dal ymlaen i unrhyw beth.  Ar ol bod yn y sw aethon ni ar y tren tanddearol i fwyty neis. Roedd mwy o fwyd sbeislyd yna. Bwyton ni tatws chilia phorc, reis a phethau gwyrdd hallt. Ar ol bwyta aethon ni i wylio sglefrio-ia a mynd o gwmpas y ddinas a edrych ar yr adeiladau oedd wedi cael ei goleuo. Roedd yna un adeilad gyda golau glas yn cwympo a roedd e’n edrych fel yr oedd yn bwrw eira. Aethon ni ar y  tren tanddearol roeddwn ni, Scott a Louhi yn esgus  syrffio, fe gwympodd Louhi ar ei phen-ol!!!! O’r diwedd cyrhaeddon ni’r gwesty ond doedd dim amser i ysgrifennu ar y blog.
 

Panda yn y Sŵ!


Ar ôl bod yn y siop.

Goleuadau'r ddinas!


Nate ac Adam yn mynd o amgylch y ddraig lwcus cyn gwneud dymuniad!


Mynd o amgylch yr hen dref.


 Ni yn yr hen dref.

Tuesday 26 June 2012

Dydd Mawrth - 26.06.12






Rydym wedi cyrraedd Chongqing yn ddiogel. Fe ddeffron ni am 7:00 o’r gloch a fe wisgon a neud yn siwr nag oedden wedi gadael unrhyw beth o dan y gwely. Ffeidion ni gwpwl o ffrindiau o dan y gwely (anifeiliaid wedi marw). Wedyn aethon ni i gael brecwast, roedd yna ddigon o sudd oren diolch byth. Aethon ni i nol ein bagiau a cerddon ni lawr i’r bws.  Cyrhaeddon ni’r maes awyr am 10:00 a rhoddon ni ein bagiau ar y belt. Roedd bag Mr Thomas yn pwyso 24kg roedd i fod o dan 15kg!!!!!!!!  Aethon ni i Starbucks a cefais frappuchino caramel. Aethon ni ar yr awyren a gwrandawon ar y radio. Fe ddarllenais ‘Billionaire Boy’ ar yr awyren. O’r diwedd cyrhaeddon ni Chongqing, casglon ein bagiau a mynd ar y bws. Dyma rhai o’r ffeithiau dywedodd y tywysydd wrthom ar y bws:
·      Mae yna 23 o fontydd yn Chongqing.
·      Y prif bethau mae nhw’n allforio yw ceir, beiciau modur, tanciau, gyniau a bwledi.
·      Gelwir Chongqing yn Foggy City (oherwydd ei fod mor niwlog),Traffic City (oherwydd y traffig) a Mountain City oherwydd y mynyddoedd.
·      Cafodd y bont cyntaf ei hadeiladu yn y flwyddyn 1966.
·      Erbyn y flwyddyn 2000 roedd 4 pont yn Chongqing.
·      Blwyddyn nesaf mae 10 pont newydd yn cael ei hadeiladu yn Chongqing.
·      Mae pob mynydd rhwng 200-800 metr o daldra.
·      Mae pob ‘skyscraper’ yn o leiaf 200m o daldra.
·      10 mlynedd yn nol roedd llawer iawn o dir Chongqing yn dir amaethyddol er mwyn tyfu reis.
·      Mae yna ddau afon yn llifo trwy Chongqing, Yr afon Yangzhe a’r afon Jaling.
·      Mae 90% o bobl Chongqing yn byw mewn fflatiau a mae’r pobl sydd yn byw mewn tai yn bobl cyfoethog iawn.
·      Mae’r system trenau yma wedi cael ei ddefnyddio yn yr ail ryfel byd.
·      Mae map Chongqing yn cael ei newid bob 3 mis oherwydd bod llawer o ddatblygiadau yn digwydd.
·      Yn ystod yr ail ryfel byd Chongqing oedd y dinas pwysicaf.
·      Bomiodd Japan Chongqing a dim ond treuan y ddinas oedd ar ôl, ar ôl i’r bomio orffen.
·      Mae yna ynys yn Chongqing a mae’r ddwy afon yn ei hamgylchynu.

Cyrhaeddon ni’r gwesty a roedd yna ddyn Tseiniaidd yn meddwl taw Miss Davies a Mr Thomas oedd mam a dad ni’n pedwar!!!
Aethon ni i swper a rhwbiais fy llygaid pan oedd yna chili ar fy nwylo, roedd hynny’n beth chili i neud (sori, sili).Roedd y bwyd yn sbeislyd iawn.

Rydyn ni’n edrych ymlaen i ddysgu mwy am Chongqing yn y dyddiau nesaf.


Hwyl fawr Gwen, Adam, Nate a Bronwen xxxx

Monday 25 June 2012

Dydd Llun - 25.06.12




Mwynhau ar y campws.


Gwers Tai-Chi.


Gyda ein hathrawes Mandarin Annie (enw Saesneg) Marleen (Enw Tseiniaidd).

Mae’n amser cinio yma yn China. Rydyn ni wedi bwyta llond ein boliau a nawr yn cael amser i ymlacio a phacio. Mae gan ambell un mwy o waith na eraill i dacluso a phacio ystafelloedd.
Cafon ni wersi Mandarin eto bore ma – fe fyddwn ni i gyd yn rhygl erbyn i ni ddod adre!! Dysgon ni am fwydydd a sut i archebu bwyd a diod mewn bwyty. Hefyd dysgon ni y rhifau fel ein bod ni’n gallu talu am y bwyd. Mae cyfri yr un peth ag yn y Gymraeg.
Ar ôl gorffen ein gwersi iaith gwylion ni mwy o Karate Kid. Mae’n ffilm dda sydd wir yn adlewyrchu bywyd yn China. Mrs Mead gawn ni wylio fe yn y clwb ffilm os gwelwch yn dda? 
Prynhawn ma fe fyddwn ni’n cael gwers Tai-Chi.
Mae’n rhaid i ni bacio heddiw oherwydd fyddwn ni’n dal awyren bore fory i symud ymlaen i Chongching. Yn ôl y son mae’n tua 40 gradd yna ar hyn o bryd felly rydyn ni’n paratoi i doddi!!
Cofion cynnes i bawb yn ôl yng Nghymru xxx

Sunday 24 June 2012

Dydd Sul - 24.06.12

Ni hao o Tseina!!
Wel am ddiwrnod diddorol heddiw!
Dechreuodd y diwrnod gyda’r brecwast diddorol arferol o sudd oren (am y tro cyntaf ers i ni gwyno bob bore!!), beansprouts, crulla, tato melys a bresych!!!
Aethon ni yn gyntaf i Hulishan fortress ble welson ni gynnau enfawr a oedd yn amddiffyn  Tseina rhag ymosodiadau gan sawl gwlad gan gynnwys Taiwan a Siapan. Roedd un gwn yn 14 metr o hyd!!! Gwelon ni filwyr Cing yn saethu gynnau tra’n gwneud sioe. Roedd gan y milwyr 8 baner gwahanol a gwisgon nhw arfwisg melyn llachar gyda gweywffin haearn cryf. Ar ôl gadael y castell fe gollon ni Scott!! Yn y diwedd ffeindiwyd Scott yn y carchar tan ddaearol!!!!! Er bod y plant i gyd yn gwrando ar y rheol o beidio crwydro yn amlwg dydy’r oedolion ddim mor sylwgar!
Dydyn ni ddim am son dim am y tywydd bore ma – erbyn y prynhawn fe gododd y tywydd yn braf ac yn chwilboeth unwaith eto.
Cafon ni ginio am 11 mewn bwyty diddorol – rydyn ni’n siwr bod ambell un wedi cael ychydig mwy o brotîn nag oedd i fod yn y bwyd gan bod lot fawr o bryfed o amgylch!!!
Ar ôl cinio aethon ni ar gwch draw i Ynys Gulangyu. Ar yr ynys dringon ni i ben ‘Sunlight rock’. Yn y gwres roedd hyn yn dipyn o sialens i ni gyd! Mae’n cael ei alw yn ‘Sunlight rock’ oherwydd dyma’r lle cyntaf i weld golau yr haul bob bore. Roedd yr olygfa o ben y graig yn syfrdanol. Wrth droed y graig roedd yna ddrysfa Tseiniaidd gyda’r 12 anifail sy’n cynrychioli y blynyddoedd. Cafon ni hwyl yn rhedeg o amgylch yn chwilio am y cerflyniau ac yn cuddio mewn twneli bach.
Nesaf cafon ni amser i siopa. Dysgodd Adam yn go gloi sut i fargeinio gyda’r gwerthwyr! Defnyddiodd ei sgiliau i hanneru’r pris – watch out Lord Sugar!! Prynnon ni ambell beth ond mae merched Lansdowne yn amlwg yn hoffi siopa yn fwy na ni!
Gan bod Mr Edwards o Lansdowne wedi bod yn son am Starbucks trwy’r wythnos aethon ni i gyd yna ar y ffordd yn ôl i’r gwesty. Gollyngodd Nate ei gacen ar y llawr ond llwyddodd Mr Thomas i arbed hanner!
Mae’r penwythnos nawr ar ben fe fyddwn ni yn ôl yn ein gwersi yn y bore yn barod i ddysgu mwy o Fandarin!
Zai Tien x
Nate, Bronwen, Gwen, Adam, Mr Thomas a Miss Davies


Teithio ar gwch i Ynys Gulangyu.


Dyma ni wedi cyrraedd ben 'Sunlight Rock'.



Nate gyda un o milwyr Cing.


Lord Adam Sugar!


Bronwen yn chwys domen ar ôl bod yn rhedeg o amgylch y drysfa!

Amser Cinio:

Cafon ni ginio diddorol heddiw gyda phob math o fwyd y môr.
Buodd Gwen yn ddewr iawn a blasu 'oysters'!
Ydych chi'n meddwl yr oedd hi'n hoffi nhw...?
 
 








24.06.2012